Cyfarwyddiaeth: Gofal Cymdeithasol ac Ieuenctid
Man Gwasanaeth: Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid
Manylion Cyswllt: dataprotection@monmouthshire.gov.uk
Enw Hysbysiad Preifatrwydd: Atgyfeiriad Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid
Sut y byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth
Mae’r Gwasanaeth Troseddu Ieuenctid (YOS) yn bartneriaeth statudol o asiantaethau yn cynnwys Cyngor Sir Fynwy, Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen, Awdurdodau Addysg Lleol Sir Fynwy a Thorfaen, Heddlu Gwent, y Gwasanaeth Prawf Cenedlaethol a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae gan y YOS sail gyfreithiol gofynnol am ddatgelu gwybodaeth bersonol ar gyfer diben atal neu ddatrys troseddu gan blant a phobl ifanc. yn ychwanegol mae’n ddyletswydd ar YOS i rannu a cheisio gwybodaeth lle mae angen hynny i ddiogelu plant agored i niwed.
Gall atgyfeiriadau i’r YOS gynnwys y data personol dilynol:
- Gwybodaeth bersonol fel dyddiad geni, rhyw, cyfeiriad;
- Rhiant geni, gofalwyr, aelodau teulu a gwybodaeth bersonol am bobl eraill arwyddocaol;
- Gwybodaeth bellach megis grŵp ethnig, statws anabledd a gwybodaeth iechyd arall;
- P’un ai ydych wedi cyflawni neu yr honnir i chi fod wedi cyflawni unrhyw drosedd;
- Manylion unrhyw drafodion yn ymwneud â thrwydded yr ydych wedi ei chyflawni neu yr honnir i chi fod wedi’i chyflawni;
Unrhyw wybodaeth arall a fernir yn berthnasol i’ch ymddygiad troseddu.
Byddwn yn defnyddio ac yn casglu’r wybodaeth hon fel rhan o’n proses asesu i:-
- Cyflawni ein dyletswydd i atal troseddu ac ail-droseddu gan blant a phobl ifanc;
- Ein galluogi i weithio gyda chi i gytuno ar gynllun ymyriad i ostwng risgiau troseddu/troseddu pellach;
- Asesu ansawdd ein gwasanaethau;
- Gwerthuso a gwella ein polisïau ar sut y cyflwynwn ein gwasanaethau i blant a theuluoedd..
Ffynhonnell eich data personol
Os hoffech fwy o wybodaeth ar ffynhonnell yr wybodaeth cysylltwch â Chyngor Sir Fynwy os gwelwch yn dda. Gall fod angen i chi wneud cais am y wybodaeth hon fel Cais Gwrthrych am Wybodaeth.
Ein Rhwymedigaethau
Byddwn yn cadw eich gwybodaeth bersonol mewn modd diogel ac yn sicrhau mai dim ond aelodau staff gyda rheswm dilys dros gael mynediad i’ch gwybodaeth fydd yn cael caniatâd i wneud hynny. Lle mae angen rhannu eich gwybodaeth gyda sefydliadau eraill dim ond yr isafswm o wybodaeth bersonol berthnasol y byddwn yn ei rhannu. Dim ond cyhyd ag sydd angen y byddwn yn cadw eich gwybodaeth. Byddwn yn defnyddio eich gwybodaeth i asesu eich anghenion a darparu gofal a chymorth lle’n briodol. Rydym yn gweithredu dull gweithredu ataliol i ddiwallu eich anghenion a byddwn yn gweithio gyda chi i ddynodi a chyflawni eich deilliant personol.
Diben a sail gyfreithiol ar gyfer defnyddio eich gwybodaeth
Mae gan yr YOS y sail gyfreithiol gofynnol ar gyfer datgelu gwybodaeth ar gyfer diben atal neu ddatrys troseddu gan blant a phobl ifanc. Yn ychwanegol mae gan yr YOS ddyletswydd i rannu a cheisio gwybodaeth lle mae angen hynny i ddiogelu plant agored i newid.
Ein rhesymau cyfreithiol dros ddefnyddio eich gwybodaeth:
Mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i brosesu eich gwybodaeth.
Rydym yn prosesu i ddiogelu eich buddiannau hanfodol chi neu berson arall Mae angen prosesu er mwyn cyflawni tasg gyhoeddus
Mae’r Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) yn rhoi gwarchodaeth ychwanegol ar gyfer rhai mathau o wybodaeth a elwir yn ‘gategorïau arbennig o ddata personol’. Os yw peth o’r wybodaeth a roddwch yn dod o fewn y categori hwn, yna caiff mwy nag un amod ei dynodi uchod.
I gael mwy o wybodaeth ar sail gyfreithlon ewch i www.ico.org.uk
Cookies We Use
Cookie Name | Cookie Owner | Cookie Description |
---|---|---|
wp-settings-time- | WordPress | WordPress also sets a few wp-settings-{time}-[UID] cookies. The number on the end is your individual user ID from the users database table. This is used to customize your view of admin interface, and possibly also the main site interface. |
wp-setting- | WordPress | WordPress also sets a few wp-settings-[UID] cookies. The number on the end is your individual user ID from the users database table. This is used to customize your view of admin interface, and possibly also the main site interface. |
wordpress_test_cookie | WordPress | WordPress sets this cookie when you navigate to the login page. The cookie is used to check whether your web browser is set to allow, or reject cookies. |
wordpress_sec | WordPress | Essential WordPress session management cookies for logged in users. |
wordpress_logged_in | WordPress | After login, wordpress sets the wordpress_logged_in_[hash] cookie, which indicates when you’re logged in, and who you are, for most interface use. |
gdpr_popup | Monmouthshire Torfaen YOS | This cookie is used to track who has already been shown the notice. The cookie has been set never to expire unless there is a change in the privacy policy. |
_gid | Google Analytics | Used to distinguish users. |
_ga | Google Analytics | Used to distinguish users. |
_gat | Google Analytics | Used to throttle request rate. If Google Analytics is deployed via Google Tag Manager, this cookie will be named _dc_gtm_
|
DYNSRV | Hosting Provider | This cookie is believed to be used for load balancing to manage server traffic demand. |